Cyflwyniad
Caethwasiaeth fodern yw ecsbloetio pobl er budd personol neu fasnachol. Mae’n cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ledled Cymru, y DU, a'r byd.
Crëwyd cwrs Dysgu Ar-lein Gwrthgaethwasiaeth Cymru ar gyfer pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Rydym yn annog yn benodol y rhai sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn lleoliadau sydd â risgiau uchel o gaethwasiaeth fodern, a'r rhai sy'n ymgysylltu â phobl a allai fod yn profi neu wedi profi ecsbloetio, i’w gwblhau.
Mae’r cwrs Dysgu Ar-lein Gwrthgaethwasiaeth Cymru yn cynnwys tri modiwl i'ch helpu i ddysgu am ecsbloetio yng Nghymru:
- Modiwl 1: Cyflwyniad i Gaethwasiaeth Fodern
- Modiwl 2: Adnabod Arwyddion Caethwasiaeth Fodern
- Modiwl 3: Diogelu’r Rhai sydd Yn Dioddef ac sydd Wedi Dioddef Caethwasiaeth Fodern
Mae'r cwrs dysgu ar-lein hwn wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid amlasiantaeth. Mae'r cynnwys wedi cael ei adolygu gan aelodau Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru a'i Grŵp Hyfforddi ac Ymwybyddiaeth a Phanel Cynghori Profiadau Bywyd (LEAP) Sefydliad Masnachu mewn Pobl. Dylid ei ystyried ochr yn ochr â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Gellir cwblhau'r dysgu hwn ar eich cyflymder eich hun. Gallwch chi gymryd seibiannau pryd bynnag y dymunwch. Ar ôl i chi gwblhau pob modiwl, mae Tystysgrif Cyfranogiad a Chrynodeb o'r Modiwl y gallwch eu cadw ar gyfer eich cofnodion.
Drwy gydol y cwrs dysgu ar-lein, byddwn yn rhannu dolenni i wefannau ac adnoddau allanol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys ffynonellau allanol o'r fath, ac efallai na fydd gwybodaeth ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Noder: Mae'r cwrs dysgu ar-lein hwn yn ymdrin â materion sensitif y gallai rhai pobl eu cael yn anodd. Mae'n normal profi amrywiaeth o deimladau wrth ddysgu am ymddygiadau niweidiol. Byddwch yn ymwybodol o'ch lles eich hun wrth weithio trwy'r dysgu ar-lein hwn.
Nodyn ar iaith
Mae'r Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol wedi nodi'r heriau o ran cyfathrebu am gaethwasiaeth fodern. Mae'n bwysig peidio ag atgyfnerthu rhagdybiaethau anghywir ac ysgogi stereoteipiau. Lle y bo hynny’n bosibl ac yn briodol, rydym yn defnyddio iaith sy'n cael ei ffafrio gan bobl sydd â phrofiad bywyd o ecsbloetio.
Croeso i gwrs Dysgu Ar-lein Gwrthgaethwasiaeth Cymru
Mae hwn yn fan pwrpasol i ddysgwyr gysylltu, cael y newyddion diweddaraf a chwblhau eu hyfforddiant gorfodol a’u hyfforddiant atodol parhaus. Rydym yn gwahodd ein dysgwyr i ddefnyddio ein hadran fforwm ar gyfer trafodaethau, straeon a chyfathrebu cyffredinol â'n rhwydwaith dysgwyr cyfan.