Mae’r pecyn dysgu hwn yn darparu hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelu Lefel 1i’r holl staff ac yn cyflawni’r cymwyseddau craidd fel yr amlinellir yn y canlynol - hofran dros y teitlau isod i gael mynediad at hyperddolenni:
- Dogfen Ryng-golegol - Diogelu Plant a Phobl Ifanc: Rolau a Chymwyseddau ar gyfer Staff Gofal Iechyd (2019)
- Dogfen Ryng-golegol - Diogelu Oedolion: Rolau a Chymwyseddau ar gyfer Staff Gofal Iechyd (2018)
- Sgiliau Iechyd – Fframwaith Hyfforddiant Sgiliau Craidd (Hydref 2018)
Amcangyfrifir mai tua 60 munud yw'r amser cwblhau. Ceir asesiad byr o'r dysgu ar y diwedd gyda marc pasio o 80% a thri ymgais i'w gwblhau. Gellir cwblhau'r pecyn dysgu fesul cam, os oes angen, a'i gadw.