
Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant pawb sy’n byw yng Nghymru. Nid cyflwr sy’n effeithio ar bobl hŷn yn unig yw dementia, er bod cysylltiad cryf rhwng oedran hŷn a diagnosis o ddementia. Wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, yn naturiol bydd mwy o bobl hŷn ac felly mwy o bobl â dementia. O ganlyniad, mae angen cynyddol i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ddeall y materion sy’n ymwneud â gofal a chymorth dementia da. Mae angen ymwybyddiaeth gadarn ar bob gweithiwr o ddementia a'r materion sy'n gysylltiedig ag ef i sicrhau bod eu hymagwedd yn cefnogi pobl â dementia a gofalwyr i fyw'n dda.