Beth bynnag yw eich rôl, mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb.
Mae hyn wedi’i nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

ob blwyddyn bydd 120,000 o bobl yn dechrau gofalu a bydd rhai rolau gofalu yn dod i ben; mae'n hanfodol felly bod gofalwyr yn cael eu hadnabod cyn gynted â phosibl fel eu bod yn gwybod ble y gallant ddod o hyd i wybodaeth, cymorth a chefnogaeth.
Bydd gwneud hynny'n cael effaith sylweddol ar eu bywydau a'r rôl bwysig y maent yn ei chyflawni.
Bydd y cwrs hwn yn eich arwain trwy rai ffyrdd y gall cefnogaeth ddigidol a dulliau ymgysylltu eich helpu yn eich rôl o ddydd i ddydd.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu gan Gymunedau Digidol Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i’ch helpu i ddeall rhai ffyrdd y gallwch ymgysylltu â phobl a’u cefnogi’n ddigidol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth rydym yn ei gynnig ar ddiwedd y cwrs hwn.
Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth am atal a rheoli heintiau y gellir ei defnyddio i lywio ymddygiad o ddydd i ddydd i leihau lledaeniad heintiau a chlefydau heintus.
Mae 3 lefel o hyfforddiant ac mae'r gynulleidfa darged wedi'i hamlinellu ym mhob un.