Beth yw pwrpas Canllaw Sgwrs Cymru Gyfan ar Les y Gweithlu?
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio i siapio sgyrsiau llesiant seiliedig ar dystiolaeth yn y gwaith. Gellir ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd, a gall fod yn ffordd o helpu rheolwyr i ddeall anghenion llesiant eu staff yn well, yn ogystal â chynnig modd iddynt gael y sgwrs bwysig honno. Datblygwyd y canllaw hwn gyda'r dybiaeth bendant bod angen perthynas iach rhwng y rheolwr a'r aelod o staff y maent yn ei reoli er mwyn bod yn effeithiol. Mae'r canllaw hwn hefyd yn ddefnyddiol i bob gweithiwr i'w helpu i ddeall eu lles eu hunain yn well.
Cyrchwch y canllaw hwn ar dudalen gartref Dysgu@Cymru.